Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC 2011 (Papur 2 Rhan
1)
Strategaeth Ddrafft y Comisiwn 2011-16
Dyddiad: 14 Gorffennaf 2011
Amser: 12.00-14.00
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Claire Clancy, estyniad
8233
Strategaeth ddrafft ddiwygiedig y Comisiwn ar gyfer 2011-16
1.0 Diben a chrynodeb o’r prif faterion
1.1. Ystyried strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. Yn y strategaeth ddiwygiedig, rydym wedi ceisio adlewyrchu’r sylwadau a gafwyd gan y Comisiynwyr yn ystod y cyfarfod ar 29 Mehefin.
2.0 Argymhellion
2.1. Bod y Comisiynwyr yn rhoi sylwadau ar y drafft diwygiedig o’r Datganiad o Ddiben a Nodau Strategol yn yr Atodiad fel y gallwn sicrhau bod y fersiwn derfynol yn adlewyrchu eu blaenoriaethau a’u huchelgais ar gyfer y Comisiwn.
6 Gorffennaf 2011
Strategaeth Comisiwn y Cynulliad ar 2011-16
Datganiad o Ddiben
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol i feithrin sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Nodau Strategol
·
Darparu cefnogaeth seneddol
o’r radd flaenaf
Byddwn yn helpu Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu
cyfrifoldebau i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i
ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i
gyfrif.
·
Ymgysylltu’n frwd ac eang
â phobl Cymru
Byddwn yn creu amgylchedd sy’n annog pobl Cymru i
ymddiddori yng ngwaith y Cynulliad ac sy’n eu hwyluso i
ymgysylltu â swyddogaethau deddfu, craffu a chynrychioli y
Cynulliad, a sicrhau bod y Cynulliad yn cael budd o’r egni
creadigol sy’n deillio o’r ymgysylltiad
hwnnw.
· Gweithio fel llysgennad i Gymru dros y byd.
Byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd yn y DU a thramor i hybu Cymru a gwaith y Cynulliad, a chwarae ein rhan yn natblygiad democratiaeth seneddol mewn gwledydd eraill dros y byd.
·
Cryfhau hyder Aelodau’r
Cynulliad a phobl Cymru yn y modd rydym yn darparu gwasanaethau ac
yn rheoli costau
Byddwn yn gwneud defnydd da o arian y trethdalwr, ac yn rheoli
adnoddau er mwyn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy’n
fwy effeithlon ac yn cynnig gwell gwerth am arian.
Wrth gyflawni’r nodau hyn, byddwn yn:
· gweithredu gydag uniondeb a thegwch, ac yn ddiduedd;
· cryfhau ethos dwyieithog y Cynulliad;
· gosod safonau uchel;
· bod yn agored a thryloyw;
· gweithio’n gynaliadwy.